P-04-648  Diwygio’r Cyfarwyddyd ar Olew a Nwy Anghonfensiynol 2015. 

Manylion:

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ddiwygio'r Cyfarwyddyd ar Olew a Nwy Anghonfensiynol (Cymru), i alw pob cais cynllunio ar gyfer datblygu Olew a Nwy anghonfensiynol, gan gynnwys drilio archwiliol am fethan ar wely pyllau glo, i sylw'r Gweinidog. Ar hyn o bryd mae'r Cyfarwyddyd yn datgan mai ceisiadau lle mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn debygol o wrthod y cais yn unig y dylid eu cyfeirio at y Gweinidog. Mae caniatâd diweddar i gais yn dangos bod yna fwlch y dylid ei gau.

 Gwybodaeth Ychwanegol

Mae cwmnïau olew a nwy, pan fyddant yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer drilio archwiliol am fethan ar wely pwll glo, yn honni'n rheolaidd nad 'ffracio' mohono, ac yn aml mae Swyddogion Cynllunio yn cefnogi hyn ac yn argymell bod awdurdodau cynllunio lleol yn caniatáu'r cais.

Mae'r honiadau hyn, nad ffracio yw methan ar wely pwll glo yn gamarweiniol, ac ar hyn o bryd mae Cyfarwyddyd y Gweinidog yn cynnwys bwlch sy'n caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol sy'n bwriadu rhoi caniatâd beidio â chyfeirio'r cais at y Gweinidog.

Dylai'r bwlch hwn gael ei gau ar unwaith, a dyna yw pwrpas y ddeiseb hon.

Mae rhagor o wybodaeth am echdynnu methan o Wely Pyllau Glo ar gael yn y linc hwn: http://frack-off.org.uk/coal-bed-methane-the-evil-twin-of-shale-gas/

 Prif ddeisebydd: Councillor Arfon Jones

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf:

 

Nifer y deisebwyr:362 (ar hyn o bryd)  llofnod ar lein